RHYFEL AFGHANISTAN


Rhyfel Afghanistan (2001–presennol)
Dechreuodd y Rhyfel Afghanistan presennol ym mis Hydref 2001 wrth i luoedd arfog yr Unol Daleithiau ymosod ar Afghanistan fel ymateb i ymosodiadau terfysgol 11 Medi. Cafodd yr Unol Daleithiau gymorth milwrol gan luoedd Affgani Cynghrair y Gogledd a NATO, yn cynnwys milwyr y Deyrnas Unedig, Canada, Awstralia, Ffrainc, Seland Newydd, yr Eidal a'r Almaen. Y goresgyniad oedd dechrau'r hyn a elwir gan rai y "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth". Ers i'r rhyfel ddechrau mae miloedd o sifiliaid wedi eu lladd, yn cynnwys dwsinau o ferched a phlant a laddwyd pan fomiodd awyrennau Americanaidd bentref yn ne-orllewin Afghanistan ar ddechrau Mai 2009. Mae dros 298 o filwyr Prydeinig wedi colli eu bywydau a 1,836 o filwyr NATO wedi colli eu bywydau ers cychwyn y rhyfel (hyd at Mehefin 2010).

Please Select Embedded Mode To Show The Comment System.*

Postagem Anterior Próxima Postagem